Beth dylwn i ei ystyried os ydw i'n gwneud fy nghegin yn gegin gynllun agored?
Project type
Bydd gwneud man cynllun agored drwy dynnu drysau neu waliau rhwng y gegin ac ystafelloedd eraill, yn enwedig rhwng y gegin a grisiau, yn effeithio ar ffyrdd o ddianc mewn tân.
Er enghraifft, a oes drws tân rhwng eich grisiau a'ch man cynllun agored er mwyn i bobl allu gadael yr adeilad o rannau eraill o'r tŷ yn ddiogel? Oes drws tân ar y gegin – sydd, wrth gwrs, yn fan â risg tân?
Mae'n bosibl y bydd angen rhagofalon eraill mewn rhannau eraill o'r eiddo, fel ffenestri dianc, canfodyddion mwg a gwres wedi'u cysylltu, defnyddiau sy'n gwrthsefyll tân neu hyd yn oed ysgeintellau. Bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu ar gyfer yr addasiadau adeileddol a hefyd y goblygiadau o ran lledaeniad tân.
Efallai y byddwch chi'n clywed am ffrindiau neu gymdogion sy'n bwriadu cael eu tystysgrif rheoliadau adeiladu ac yna tynnu'r drysau tân, er bod y rheoliadau'n pennu bod eu hangen. Dylech chi wybod bod hyn yn anghyfreithlon ac yn beryglus: pwrpas y rheoliadau yw achub eich bywyd.

Rhagor o wybodaeth
Popeth mae angen i chi ei wybod am wneud cais rheoliadau adeiladu