Skip to main content
Sut ydw i'n gwybod a alla'i drawsnewid fy atig?

Sut ydw i'n gwybod a alla'i drawsnewid fy atig?

Project type

Mae trawsnewid eich atig yn gallu bod yn ffordd gost-effeithiol o wneud mwy o le i fyw yn eich cartref a chynyddu gwerth eich eiddo. Nid yw'n bosibl trawsnewid rhai atigau, ond mae'n bosibl trawsnewid llawer - er bod rhai'n haws ac yn rhatach i'w haddasu nag eraill.

Os ydych yn meddwl am drawsnewid eich atig, mae'n well cael cyngor proffesiynol, ond fel cam cyntaf, dylech wirio:

  • Yr uchdwr sydd ar gael dros y grisiau a phen y grisiau. Dyma'r ffactor bwysicaf. Mae angen o leiaf 2.2m rhwng top distiau'r llawr a gwaelod pren y grib. Mae hyn er mwyn rhoi o leiaf 2m o uchdwr ar ôl gosod lloriau a thrawstiau newydd ac ati. Dylech hefyd ystyried yr uchdwr drwy'r rhan fwyaf o'r ystafell. Dyma beth sy'n cael ei ystyried yn uchder cyfforddus. Gallwch ddysgu mwy yma.
  • Maint y llawr. A yw arwynebedd y llawr yn ddigon mawr i wneud ystafell ddefnyddiol? Gallai hyn hefyd effeithio ar ba fath o drawsnewidiad atig y byddwch chi'n ei ddewis.
  • Ongl y to. Bydd ongl fwy serth ar eich to'n ei gwneud yn haws trawsnewid eich cartref, oherwydd bydd mwy o uchdwr ac felly mwy o le defnyddiol.
  • Y math o do – Bydd gan eich to naill ai ceibrau (sy'n rhedeg ar draws ymyl y to gan adael lle i chi yn y triongl rhyngddynt) neu gyplau (sy'n lleihau rhywfaint o'r lle hwnnw am eu bod yn rhedeg ar draws y to).
  • Unrhyw rwystrau eraill. Mae gan lawer o dai hŷn danciau dŵr a staciau simnai, a gallai fod angen cael gwared â'r rhain neu eu hystyried wrth ddylunio eich atig wedi'i thrawsnewid.

Os nad oes gennych ddigon o uchdwr, gallech ystyried gwneud y nenfydau'n is yn yr ystafell(oedd) o dan yr atig, neu godi'r to.

Mae gwneud nenfydau'n is yn gallu creu llawer o lanastr ac mae codi'r to'n gallu bod yn gostus – a bydd angen caniatâd cynllunio, ond mae'r ddau ddull yn bosibl os ydych yn benderfynol o drawsnewid eich atig.

Rhagor o wybodaeth

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?