
A oes angen caniatâd cynllunio i drawsnewid fy atig?
Project type
Mae'r rhan fwyaf o waith trawsnewid atig yn ddatblygiadau a ganiateir [cyswllt], felly efallai na fydd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, bydd ei angen:
- Os yw eich cartref yn adeilad rhestredig.
- Os ydych yn byw mewn ardal ddynodedig, er enghraifft, ardal gadwraeth neu Barc Cenedlaethol.
- Os ydych yn mynd i newid uchder neu siâp y to. Er enghraifft, byddai trawsnewid atig mansard yn perthyn i'r categori hwn.
- Os hoffech chi gynnwys balconi.
- Os yw'r lle yn eich to dros 40m2 mewn tai teras neu 50m2 mewn tai sengl neu dai pâr.
- Os yw eich cartref yn fflat un neu ddau lawr. Yn anffodus, nid yw datblygiadau a ganiateir yn bosibl yn y mathau hyn o eiddo, felly bydd angen caniatâd cynllunio i drawsnewid eich atig.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag adran gynllunio eich awdurdod lleol.
Rhagor o wybodaeth
Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?