
Beth yw’r gwahanol ffyrdd o drawsnewid atig
Project type
Mae pedair prif ffordd o drawsnewid atig, ac mae gan bob un ei manteision a'i chyfyngiadau cynllunio posibl ei hun:
- Trawsnewid ffenestr do. Dyma'r ffordd hawsaf a rhataf o drawsnewid atig; yr unig beth mae angen ei wneud yw ychwanegu ffenestri sy'n ffitio'n daclus yn nho presennol eich cartref. Nid oes angen caniatâd cynllunio i wneud y math hwn o drawsnewid [cyswllt] (ond bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu [dolen]). Fodd bynnag, gan nad yw'n newid ongl na siâp y to, bydd angen cryn dipyn o uchdwr i ddechrau.
Trawsnewid dormer Yn y bôn, mae hyn yn estyniad o fewn ardal yr atig. Mae'n un o'r dewisiadau mwyaf poblogaidd oherwydd mae'n cynyddu arwynebedd y llawr a'r uchdwr. Mae'n bosibl ei ychwanegu at y rhan fwyaf o fathau o do hefyd – cyn belled â bod y to ar ongl. O fewn y categori hwn, dyma'r prif fathau o drawsnewid dormer:
- Dormer to fflat. I wneud hyn, caiff wal fertigol ei hadeiladu tuag at waelod goledd y to, a chaiff to fflat ei adeiladu i gwrdd â hi.
- Dormer to ar ongl. Yma, bydd gan yr estyniad dormer do ar ongl, nid to fflat. Mae'n bosibl y bydd yna un dormer, yn dilyn llinell y to, neu lawer o rai llai o flaen y tŷ neu y tu ôl iddo. Gallai'r olaf o'r rhain fod yn opsiwn os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, lle mae'r rheoliadau adeiladu'n cyfyngu ychydig mwy arnoch chi.
- Trawsnewid arris i dalcen. Mae'r rhain yn ychwanegu llawer o uchdwr ac felly llawer o arwynebedd llawr defnyddiol, felly maen nhw'n boblogaidd mewn eiddo sengl, pâr neu ben teras heb lawer o le yn yr atig bresennol (nid ydynt yn bosibl mewn eiddo canol teras). Maent yn golygu mwy o waith na thrawsnewid dormer neu ffenestr do, gan fod angen adeiladu wal fertigol o'r un uchder â'r to yn lle un o'r toeon ar ongl, ac estyn y to allan i gwrdd â'r wal fertigol newydd. Mae'n bosibl na fydd angen caniatâd cynllunio i drawsnewid atig fel hyn, ond dylech holi eich awdurdod lleol, gan fod hyn yn gallu amrywio.
- Trawsnewid mansard. Mae'r math hwn o drawsnewid yn troi ochr eich to sydd ar ongl yn wal bron yn fertigol (o leiaf 72 gradd), ac yn defnyddio to fflat i gysylltu â gweddill y to. Mae angen gwneud newidiadau mawr i siâp ac adeiledd y to, felly fel rheol bydd angen caniatâd cynllunio.
Rhagor o wybodaeth
A oes angen caniatâd cynllunio i drawsnewid fy atig?
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?
Arweiniad defnyddiol

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?
Read article
Beth yw'r rheoliadau tân ar gyfer atig wedi'i thrawsnewid?
Read article
Beth yw'r rheoliadau adeiladu o ran inswleiddio fy atig wedi'i thrawsnewid?
Read article