Skip to main content
A fydd y grisiau i fy atig wedi'i thrawsnewid yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu?

A fydd y grisiau i fy atig wedi'i thrawsnewid yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu?

Project type

Mae grisiau i atigau yn aml wedi'u hadeiladu yn union uwchben y grisiau presennol yn eich cartref. Mae'n bosibl mai hwn fydd y lle gorau i barhau â'r grisiau, ond mae hefyd yn gallu rhoi teimlad o barhad. Fel y gallech ei ddisgwyl, mae angen i'r grisiau i'ch atig fodloni safonau'r rheoliadau adeiladu i leihau'r posibilrwydd o wrthdrawiadau ac anafiadau drwy syrthio. 

Y pwyntiau pwysig

  • Mae angen i frig y grisiau fod yn y rhan uchaf o'r atig.

  • Mae angen 2m o uchdwr clir uwchben y grisiau, ond mae'r rheoliadau'n caniatáu i chi leihau hyn i 1.8m os yw'r grisiau o dan do ar ongl.

  • Ni ddylai ongl eich grisiau fod yn fwy na 42°. 
  • Dylai uchder wyneb pob gris (y rhan fertigol o'r ris) fod rhwng 150mm a 220mm ac mae angen i'r gofod llorwedd (y rhan yr ydych yn sefyll arno, wedi'i fesur o ymyl i ymyl) fod rhwng 220mm a 300mm.
  • Rhaid i chi gynnwys rheilen law. Mae angen i hon fod rhwng 900mm a 1000mm o uchder.
  • Os yw'r grisiau'n agored yn unrhyw le ac yn uwch na 600mm, mae angen ychwanegu balwstradau (o leiaf 900mm o uchder). Os ydych yn gosod gwerthydau ar y grisiau, mae angen i'r pellter mwyaf rhyngddynt fod yn llai na 100mm. Rhagofal diogelwch yw hyn i atal pobl (plant, fel rheol) rhag mynd yn sownd rhwng y gwerthydau.
  • Fel yr ydym wedi'i nodi o dan yr adran diogelwch tân [cyswllt], bydd angen i'r grisiau allu gwrthsefyll tân am o leiaf 30 munud. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw wydrau sydd yn y twll grisiau.  
  • Nid oes isafswm i led y grisiau i'ch atig, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon llydan i chi eu defnyddio'n gyfforddus a gallu dianc yn ddiogel, pe bai angen. Hefyd, mae angen i chi allu mynd ag unrhyw ddodrefn sydd eu heisiau arnoch i fyny'r grisiau i'r ystafelloedd yn eich atig.
  • Dylai fod landin ar waelod a brig y grisiau a dylai lled a hyd y rhain fod o leiaf yr un faint â lled y grisiau.

Amrywiadau i risiau traddodiadol

Os nad oes llawer o le, efallai y gallech ddefnyddio grisiau sydd ddim yn draddodiadol:

  • Grisiau camau bob yn ail. Ar risiau fel hyn, bydd darn o bob gris wedi'i dorri i ffwrdd. Mae angen bod yn gyfarwydd â sut i'w defnyddio. Dim ond ar risiau syth i un ystafell drigiadwy y dylid eu defnyddio, os nad oes digon o le i risiau traddodiadol. Dylid rhoi rheiliau llaw ar y ddwy ochr iddynt a dylai'r grisiau fod yn unffurf ac wedi'i gorchuddio â defnydd atal llithro.
  • Ysgol sefydlog. Ni chaiff hon fod yn ysgol sy'n plygu, mae'n rhaid rhoi rheiliau llaw ar y ddwy ochr a dim ond wrth drawsnewid un ystafell y cewch ei defnyddio.
  • Ysgol sbiral neu heligol. Gellir defnyddio hyn os yw diffyg lle yn broblem, cyn belled â'u bod yn cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer ongl a grisiau sydd wedi'u rhestru uchod ar gyfer grisiau normal i atig.

Rhagor o wybodaeth

Mae manylion pellach am gynllunio grisiau sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu i'w gweld yn Nogfen Gymeradwy K.

Hefyd, gallwch weld ein cwestiynau cyffredin am y rheoliadau adeiladu.