Skip to main content
Pam mae awyru'n bwysig wrth drawsnewid atig?

Pam mae awyru'n bwysig wrth drawsnewid atig?

Project type

Mae'n hawdd anghofio am adael i aer gylchredeg – wedi'r cyfan, byddwch chi eisiau gwneud yn siŵr bod eich atig wedi'i thrawsnewid yn gynnes ac yn effeithlon o ran egni.

Ond mae awyru'n bwysig i wneud yn siŵr na fydd gennych leithder nac anwedd. Mae'r rheoliadau adeiladu'n nodi beth sydd ei angen yn y to a'r ystafelloedd:

Awyru ystafelloedd trigiadwy

Ystafell fel ystafell wely, swyddfa neu fan byw yw ystafell drigiadwy. Yma, mae angen:

  • Ffenestr ag agoriad sy'n cyfateb i 5% neu 1/20fed o arwynebedd llawr yr ystafell os yw'n agor ar ongl o 30o neu fwy. Mae hyn er mwyn caniatáu digon o 'awyru cyflym'.
  • Awyru cefndir, fel awyrellau diferu ag 'arwynebedd cywerth' o 5000mm2. Gellir cau'r rhain i atal drafftiau.

Awyrellau diferu.

Awyru eich to

Pan fydd y to wedi'i inswleiddio, mae angen gadael bwlch neu wagle aer o 50mm rhwng ffelt y to a'r defnydd inswleiddio.

Mae hwn yn gweithredu fel llwybr awyru, gan annog symudiad aer a lleihau anwedd.

Hefyd, bydd angen gwneud bylchau bach yn y bondo (agoriad parhaus 25mm o led) a chrib y to (agoriad parhaus 5mm o led), i adael i aer gylchredeg yn iawn.

Mae haen rheoli anwedd hefyd yn gallu lleihau faint o leithder sy'n cyrraedd gwagle'r to a'r defnydd inswleiddio.

Fel arall, gellir gosod pilen do sy'n gallu anadlu o dan y teils.

Awyru eich ystafell ymolchi

Mae amrywiaeth eang o ffyrdd o gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu o ran awyru eich ystafell ymolchi.

Mewn byd delfrydol, byddai ganddi ffenestr sy'n agor a gwyntyll echdynnu, ond nid yw hyn bob amser yn bosibl.

Yma, mae gofynion y rheoliadau adeiladu wedi'u cynllunio i wneud yn siŵr bod lleithder yn cael ei dynnu o'r ystafell, gan leihau'r siawns y bydd llwydni ac anwedd yn ffurfio, ac mae amrywiaeth eang o ffyrdd o wneud hyn.

I gael gwybod a yw'r cynllun yr ydych yn ei gynnig yn debygol o fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu, siaradwch â'ch adran rheoli adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Gweler Dogfen Gymeradwy F

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?