Pa waith trydanol gaiff ei archwilio wrth drawsnewid fy atig?
Project type
Wrth estyn i mewn i'ch atig, mae bron yn sicr y bydd angen goleuadau a socedi trydan ychwanegol.
Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud ar eich pen eich hun, gan y bydd rhaid i unrhyw waith trydanol gydymffurfio â Rhan P y rheoliadau adeiladu.
Y ffordd hawddaf o wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio yw defnyddio trydanwr sydd wedi'i gofrestru â chynllun unigolion cymwys trydanol.
Mae hyn yn golygu y bydd yn gallu hunanardystio bod y gwaith yn bodloni'r rheoliadau ac yn hysbysu'r adran rheoli adeiladu ar eich rhan pe bai angen.
Bydd eich trydanwr yn gallu trafod yr opsiynau goleuo gorau i chi, ac yn gallu gosod eich canfodyddion mwg integredig.
Gan ddibynnu ar gyflwr ac oed y gwifrau presennol yn eich cartref, efallai y bydd angen rhai cylchedau newydd neu uned defnyddiwr newydd, felly cofiwch hyn, gan y gallai fod yn gost nad ydych wedi cynllunio ar ei chyfer. Bydd eich trydanwr yn archwilio hyn cyn gwifro ystafelloedd eich atig.
Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cael tystysgrif cydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu a thystysgrif gosodiad trydanol i ddangos bod y gwaith sydd wedi'i wneud yn bodloni Rheoliadau Gwifro'r Deyrnas Unedig BS 7671. (Holwch eich trydanwr amdani os nad ydych wedi ei chael - bydd ei hangen arnoch os byddwch yn gwerthu eich tŷ rywbryd.)