Skip to main content
 Beth yw'r rheoliadau tân ar gyfer atig wedi'i thrawsnewid?

Beth yw'r rheoliadau tân ar gyfer atig wedi'i thrawsnewid?

Project type

Nid oes neb yn hoffi meddwl am dân yn dechrau yn eu cartref, ond mae diogelwch tân yn beth pwysig i'w ystyried wrth ddechrau eich prosiect trawsnewid atig. Gan eich bod yn ychwanegu lefel arall at eich cartref, rydych yn newid llwybrau posibl i ddianc rhag tân. Felly (yn enwedig os oes gan eich cartref ddau lawr eisoes), bydd angen i chi ailwerthuso'r rhagofalon diogelwch tân sydd gennych drwy eich cartref i gyd, nid dim ond yn ardal yr atig.

Pam mae angen system larwm tân?

Mae yna reswm pam na chewch chi ddibynnu ar larwm mwg batri syml yn ystafelloedd eich atig.

Os bydd y larwm yn seinio ar y llawr gwaelod, mae angen i unrhyw un yn yr atig ei glywed, er mwyn cael y siawns orau o ddianc.

Felly, mae angen larymau mwg ar bob llawr sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd, fel bod pob un yn seinio gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i'r system hon fod wedi'i phweru gan y prif gyflenwad, ac mae angen cyflenwad pŵer batri wrth gefn (rhag ofn i dân achosi toriad pŵer).

Mae'n rhaid i'r larymau tân fod:

  • wedi'u lleoli mewn cynteddau neu ben grisiau ('mannau cylchredeg')
  • dim mwy na 3m oddi wrth ddrws ystafell wely
  • o fewn 7.5m i 'ystafell drigiadwy' (ystafell sy'n cael ei defnyddio i fyw, cysgu neu fwyta ynddi, felly nid ystafelloedd ymolchi, er enghraifft)
  • 30cm oddi wrth y ffitiad golau neu'r wal agosaf.

Mae rhagofalon tân yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gartref yr ydych yn byw ynddo:

  • Cartrefi â dau lawr neu fwy – tai a thai tref
  • Cartrefi ag un llawr, er enghraifft, byngalos

Beth yw dihangfa ddiogel ac a oes angen un? (tai dau lawr+)

Drwy drawsnewid eich atig, yn y bôn, rydych yn ychwanegu llawr ychwanegol at eich cartref. Oherwydd hyn, mae'r mesurau diogelwch tân yn fwy llym gan y byddai'r ffenestri yn eich atig wedi'i thrawsnewid yn rhy uchel i ddianc ohonynt. 

Fel rheol, y ddihangfa o'ch atig wedi'i thrawsnewid fydd prif gyntedd a grisiau eich cartref. Felly, mae angen 'diogelu' y llwybr hwn gymaint â phosibl i allu gwrthsefyll tân am o leiaf 30 munud, gan roi amser i chi i ddianc neu gael eich achub gan y gwasanaethau argyfwng.

Sut allwch chi gyflawni hyn?

  • Bydd angen uwchraddio'r rhan fwyaf o'r drysau sy'n arwain oddi ar y grisiau, os nad pob un, i roi'r gallu hwn i wrthsefyll tân neu osod drysau tân yn eu lle.[cyswllt] 
  • Os yw eich grisiau'n arwain i mewn i fan byw cynllun agored, bydd angen naill ai codi waliau cydrannol o'u cwmpas er mwyn diogelu'r ddihangfa, neu osod system ysgeintellau yn y man cynllun agored.
  • Mae angen i'r defnyddiau rydych chi'n eu defnyddio i drawsnewid yr atig, fel y lloriau, y drysau, y waliau a'r grisiau i'r atig i gyd allu gwrthsefyll tân am o leiaf 30 munud.
  • Mae'n bosibl y bydd angen i chi hefyd wneud eich nenfydau o dan yr atig newydd, ac yn eich grisiau presennol, yn fwy gwrthdan. Mae angen i ffenestri yn y twll grisiau fod yn wrthdan hefyd.

Gellir rhoi'r gallu hwn i wrthsefyll tân drwy roi triniaeth amddiffyn rhag tân ar y waliau a'r nenfydau, neu eu hailblastro â defnyddiau sy'n gwrthsefyll tân, er enghraifft.

Efallai fod hyn yn swnio fel llawer o waith ychwanegol, ond gall y mesurau hyn achub bywydau, felly maent yn hanfodol bwysig.

A oes angen dihangfa ddiogel o fy atig (cartrefi un llawr)

Os ydych yn trawsnewid atig eich byngalo neu gartref un llawr arall, mae'r rhagofalon tân yn fwy syml nag mewn tŷ dau lawr. Mae hyn oherwydd bod gennych ddwy ddihangfa – naill ai defnyddio'r grisiau i adael eich cartref neu neidio o ffenestr llawr cyntaf (os nad yw'r llawr cyntaf dros 4.5m yn uwch na'r ddaear y tu allan). Felly, mae llai o bwyslais ar ddihangfa ddiogel. 

Mae angen larymau mwg wedi'u pweru gan y prif gyflenwad ac wedi'u cysylltu â'i gilydd ar y ddwy lefel. Hefyd, mae angen 'ffenestr ddianc' ym mhob ystafell drigiadwy ar y llawr cyntaf.

Fel mae'r enw'n ei awgrymu, ffenestr ddianc yw ffenestr sy'n ddigon mawr i bobl allu dianc neu gael eu hachub drwyddi. Mae angen iddi fod:

  • dim uwch nag 1.1m uwchben lefel y llawr
  • o leiaf 450 x 450mm o faint, ag arwynebedd o 0.33m2
  • yn rhywle lle gallwch fynd yn bellach oddi wrth yr adeilad ar ôl cyrraedd y llawr, felly nid yn arwain i iard gaeedig er enghraifft.

Mae angen i'ch atig allu gwrthsefyll tân hefyd. Mae hyn yn golygu y dylai'r defnyddiau rydych chi'n eu defnyddio i drawsnewid yr atig, fel y lloriau, y drysau, y waliau a'r grisiau i'r atig i gyd allu gwrthsefyll tân am o leiaf 30 munud.

Rhagor o wybodaeth

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?