Skip to main content
Beth yw'r rheoliadau adeiladu o ran inswleiddio fy atig wedi'i thrawsnewid?

Beth yw'r rheoliadau adeiladu o ran inswleiddio fy atig wedi'i thrawsnewid?

Un o'r prif fannau yn eich cartref lle caiff gwres ei golli yw drwy'r to, felly mae'n hanfodol ei fod wedi'i inswleiddio'n dda, i arbed egni (ac arian) ac i wneud yn siŵr y gallwch ddefnyddio eich atig wedi'i thrawsnewid drwy gydol y flwyddyn.

Hefyd, mae'n rhaid bodloni'r targedau effeithlonrwydd egni sydd wedi'u nodi yn Rhan L y rheoliadau adeiladu. Mae hon yn nodi safon yr inswleiddio sydd ei angen, wedi'i fesur mewn gwerthoedd U. Yr isaf yw'r gwerth U, yr arafaf mae gwres yn cael ei drosglwyddo ac felly y gorau yw'r inswleiddio.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i'r gwerth U fod yn 0.18W/m2K (yn Lloegr – mae'r rheolau'n fwy cymhleth ar gyfer trawsnewid atigau yng Nghymru). Bydd yr adeiladwr, y pensaer neu'r dylunydd yn cyfrifo'r golled gwres thermol a bydd y syrfëwr rheoli adeiladu'n defnyddio'r cyfrifiad i helpu i ganfod ydy'r gwaith yn cydymffurfio.

Nid yw'r rheoliadau'n pennu pa ddefnydd i'w ddefnyddio – mae amryw o wahanol rai ar gael a bydd gan bob un drwch gwahanol i gyflawni'r gwerth U lleiaf.

Yn ddelfrydol, byddai'r defnydd inswleiddio mor denau â phosibl ac yn rhoi'r gwerth U isaf posibl, er mwyn effeithio cyn lleied â phosibl ar eich uchdwr, neu efallai yr hoffech ystyried defnyddiau inswleiddio ecogyfeillgar. Dylai eich adeiladwr allu eich cynghori ar hyn a helpu i wneud yn siŵr y bydd y gwerth U yn bodloni'r rheoliadau adeiladu.

Hefyd, bydd angen:

  • Gwneud yn siŵr bod eich ffenestri yn cydymffurfio â safon o effeithlonrwydd thermol, gan mai dyma'r ail ffynhonnell uchaf o golledion gwres.
  • Inswleiddio'r llawr, i leihau'r sŵn sy'n cael ei gludo i'r ystafelloedd o dan yr atig hefyd.
  • Dylech inswleiddio waliau rhwng ystafelloedd trigiadwy ac unrhyw waliau rydych chi'n eu rhannu â'ch cymydog rhag colledion gwres a sŵn.

Inswleiddio eich atig

Ar gyfer y to, fel rheol caiff defnydd inswleiddio ei ychwanegu rhwng y ceibrau neu o dan y ceibrau – neu'r ddau, i osgoi pontydd thermol. (Mae pont thermol yn digwydd os nad yw'r defnydd inswleiddio'n barhaus, ac  mae'n gwneud colledion gwres yn fwy tebygol.)

Yn gyffredinol, caiff defnydd inswleiddio ei ychwanegu o dan haen rheoli anwedd, sy'n lleihau'r risg o lwydni ac anwedd.

Os ydych yn rhannu wal â chymydog, gallai fod angen ei hinswleiddio rhag colledion gwres a sain.

Bydd angen defnydd inswleiddio thermol mewn wal allanol, a bydd angen ynysu wal fewnol rhag sain.

Rhagor o wybodaeth

Sut rydw i'n cadw fy atig wedi'i thrawsnewid ar y tymheredd iawn?