Ffenestri wrth drawsnewid atig - cwestiynau cyffredin?
Project type
Mae math a nifer y ffenestri yr ydych yn eu dewis wrth drawsnewid eich atig yn gallu cael effaith ddramatig ar ba mor olau yw eich lle newydd a sut mae'n edrych. Ond fel wrth ddewis sut i drawsnewid yr atig, gallai rhai pethau gyfyngu ar eich opsiynau. Er enghraifft, os ydych chi mewn ardal gadwraeth, efallai mai dim ond rhai arddulliau neu fathau o ffenestri a fydd yn bosibl, er mwyn cyd-fynd â gweddill y tŷ neu'r ardal.
Mae rhai cyfyngiadau cyffredinol wrth ddylunio ble caiff eich ffenestri eu lleoli, fel osgoi ffenestri sy'n edrych yn uniongyrchol ar gartref eich cymydog. Mae diogelwch, golau ac awyru yn bethau eraill i'w hystyried.
Beth yw'r prif fathau o ffenestri mewn atig?
Mae'r math o ffenestr yr ydych yn ei ddewis yn aml yn dibynnu ar sut yr ydych yn trawsnewid eich atig. Maent yn gallu cynnwys:
- Ffenestri to
- Ffenestri dormer
- Ffenestri pen talcen
Mae gan bob math ei fanteision a'i oblygiadau cost ei hun.
Efallai y gallwch hefyd gael llawer o wahanol fathau o ffenestri, fel ffenestri yn y to a ffenestri neu ddrysau gwydr i'ch dormer.
Sut gallaf leihau colledion gwres drwy'r ffenestri?
Cyn belled â'u bod wedi'u gosod yn gywir, mae ffenestri modern wedi'u dylunio i fod yn thermol effeithlon. Byddai dewis gwydrau dwbl neu hyd yn oed wydrau triphlyg â sgôr A+ yn eich helpu i dalu llai i wresogi eich cartref.
Bydd hefyd yn lleihau'r siawns o anwedd a llwydni, ac yn cyfrannu at ynysu rhag sain.
Dim ond toeon sy'n colli mwy o wres na ffenestri, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn inswleiddio eich atig yn gywir hefyd.
Beth mae angen i mi ei wneud os hoffwn i amnewid y ffenestri yn fy atig?
A fydd angen caniatâd cynllunio arna'i?
Fel rheol, bydd amnewid ffenestri'n ddatblygiad a ganiateir, yn enwedig os ydych yn dewis rhywbeth sy'n cyd-fynd â maint ac arddull presennol eich to. Mae'n well holi eich adran gynllunio leol yn gyntaf, fodd bynnag, oherwydd mae rhai cyfyngiadau:
- Ni chaiff y ffenestri estyn dros 150mm yn uwch na phlân y to sy'n bodoli.
- Mae'n rhaid rhoi gwydrau aneglur yn unrhyw ffenestri sy'n wynebu i'r ochr, ac ni ddylai'r rhain allu agor oni bai eu bod 1.7m uwchlaw'r ddaear.
- Ni chaiff unrhyw addasiad fod yn uwch na'r rhan uchaf o'r to.
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arna'i?
Mae angen i bob ffenestr newydd gydymffurfio â safonau perfformiad thermol newydd. Felly bydd, hyd yn oed i gyfnewid un ffenestr, bydd angen i chi brofi bod y ffenestri'n cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.
Beth arall mae angen ei archwilio?
- Bod y to'n gallu dal pwysau'r ffenestr newydd ynddo.
- Gan ddibynnu ble yn y to mae'r ffenestr, gallai fod angen iddi allu gwrthsefyll tân am 30 munud.
Mae'n bwysig cofio'r cam hwn, gan fod angen tystiolaeth bod unrhyw wydrau newydd sy'n cael eu gosod ar ôl 2002 yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
Dylech naill ai ddefnyddio gweithiwr proffesiynol sydd wedi'i gofrestru â chynllun unigolion cymwys gwydro [cyswllt] neu wneud yn siŵr bod yr adran rheoli adeiladu'n archwilio'r gwaith ac yn ei gymeradwyo.
Y naill ffordd neu'r llall, bydd angen tystysgrif i gadarnhau bod y gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn gobeithio gwerthu eich eiddo yn y dyfodol.
Dylech hefyd wirio a oes angen caniatâd cynllunio.