Skip to main content
A alla'i drawsnewid fy atig os oes ystlumod yn clwydo yno?

A alla'i drawsnewid fy atig os oes ystlumod yn clwydo yno?

Project type

Mae ystlumod yn rhywogaeth sydd wedi'i gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae hyn yn golygu na chewch chi ladd ystlum na chael gwared ag ef, na gwneud difrod bwriadol i fan mae'n ei ddefnyddio i gysgodi. Fodd bynnag, mae'n dal i allu bod yn bosibl trawsnewid eich atig hyd yn oed os oes ystlumod yn clwydo yno.

Mae'n gallu bod yn anodd dweud a oes ystlumod yn clwydo yn eich atig ai peidio.

Maent yn tueddu i fod yn dawel yn ystod y dydd ac yn gaeafgysgu rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Ond yn enwedig rhwng mis Mai a mis Hydref efallai y sylwch ar glegar wrth iddi nosi a'u gweld yn gadael eich cartref i fynd i hela.

Maent yn hoffi gwagleoedd to mawr a rhai â llawer o ffyrdd i mewn, yn enwedig os ydynt yn agos at fannau da i fforio.

Os ydych yn amau bod ystlumod yn byw gyda chi

Os ydych yn amau bod ystlumod yn byw yn eich atig, siaradwch â'ch awdurdod cynllunio lleol am y ffordd ymlaen, gan fod y canllawiau'n amrywio. Mewn rhai cartrefi lle mae 'siawns resymol' o ystlumod, fel rhai sy'n agos iawn at goetir neu ddŵr, efallai y gwnaiff eich awdurdod lleol ofyn am arolwg ystlumod i ganfod ble maent yn clwydo.

Mae gwahanol fathau o arolygon – rhagarweiniol a llawn – a dim ond gweithiwr proffesiynol trwyddedig sy'n gallu eu gwneud. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio bod ganddynt y drwydded berthnasol, neu gallai eich awdurdod lleol wrthod yr arolwg.

Ni fydd angen arolwg ystlumod llawn bob amser, er enghraifft:

  • os nad yw eich cartref ar y rhestr o adeiladau lle ystyrir bod 'siawns resymol' o ystlumod
  • os ydych wedi cael arolwg rhagarweiniol sydd wedi canfod siawns isel o ystlumod
  • os yw eich awdurdod lleol yn dweud nad oes angen un

Os ydych yn siŵr bod ystlumod yn bresennol a'ch bod yn dymuno trawsnewid eich atig, bydd angen trwydded liniaru i roi manylion ynglŷn â sut yr ydych yn bwriadu naill ai cadw lle iddynt, e.e. gadael man gwag iddynt glwydo ynddo, neu ddarparu cartref newydd iddynt.

Bydd angen i chi gyflwyno hon i'ch tîm cynllunio lleol gyda'ch cais am ganiatâd cynllunio.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.

https://cdn.bats.org.uk/pdf/Bats-and-the-Planning-System-website-pack-2019.pdf