Skip to main content
A oes angen caniatâd cynllunio i drawsnewid fy atig?

A oes angen caniatâd cynllunio i drawsnewid fy atig?

Project type

Mae'r rhan fwyaf o waith trawsnewid atig yn ddatblygiadau a ganiateir [cyswllt], felly efallai na fydd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, bydd ei angen:

  • Os yw eich cartref yn adeilad rhestredig.
  • Os ydych yn byw mewn ardal ddynodedig, er enghraifft, ardal gadwraeth neu Barc Cenedlaethol.
  • Os ydych yn mynd i newid uchder neu siâp y to. Er enghraifft, byddai trawsnewid atig mansard yn perthyn i'r categori hwn.
  • Os hoffech chi gynnwys balconi.
  • Os yw'r lle yn eich to dros 40m2 mewn tai teras neu 50m2 mewn tai sengl neu dai pâr.
  • Os yw eich cartref yn fflat un neu ddau lawr. Yn anffodus, nid yw datblygiadau a ganiateir yn bosibl yn y mathau hyn o eiddo, felly bydd angen caniatâd cynllunio i drawsnewid eich atig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag adran gynllunio eich awdurdod lleol.

Rhagor o wybodaeth

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?