Skip to main content
Beth yw fy hawliau os oes rhywbeth wedi mynd o'i le?

Beth yw fy hawliau os oes rhywbeth wedi mynd o'i le?

Project type

Os oes gwaith wedi cael ei wneud i wella eich cartref a phroblem wedi cael ei hachosi gan y masnachwr, mae'r gyfraith yn rhoi hawliau i chi i gael ad-daliad, amnewidiad neu waith atgyweirio.

Gallwch gael gwybodaeth ddefnyddiol yma https://www.which.co.uk/consumer-rights

Trwsio'r broblem

Os yw'r masnachwr wedi 'isgontractio' (trosglwyddo) rhywfaint o'r gwaith, neu'r cyfan, i fusnes arall, cyfrifoldeb y masnachwr gwreiddiol yw datrys problemau. Casglwch eich gwaith papur a'ch derbynebau, tynnwch luniau i'w defnyddio fel tystiolaeth o'r broblem a gwnewch nodiadau am yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnwys dyddiadau ac amseroedd.

Yn ôl y gyfraith, dylai adeiladwyr wneud gwaith â 'gofal a sgìl rhesymol'. Mae gennych hawl gyfreithiol naill ai i ofyn iddynt drwsio'r broblem (os ydynt wedi darparu nwyddau yn ogystal â'r gwasanaeth i chi) neu gael ad-daliad a'u hatal rhag gwneud mwy o waith - os mai dim ond y gwasanaeth sydd wedi'i ddarparu.

Gadewch iddynt wybod eich bod yn deall eich hawliau.

Os cafodd y gwaith ei wneud cyn 1 Hydref 2015, mae gennych hawliau o dan Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982.

Os cafodd y gwaith ei gadarnhau ar 1 Hydref 2015 neu wedi hynny, mae gennych hawliau o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.  

Dylai'r masnachwr unioni pethau o fewn cyfnod rhesymol, heb achosi gormod o anghyfleustra i chi. Dydy'r gyfraith ddim yn dweud beth sy'n cyfrif fel rhesymol, felly bydd rhaid i chi gytuno ar hyn rhyngoch neu benderfynu mynd â phethau ymhellach.

Os na all unioni pethau, neu os yw'n gwrthod gwneud hynny, gallwch ofyn am ad-daliad rhannol neu lawn - gan ddibynnu pa mor ddrwg yw'r broblem. Bydd rhaid i chi ddod i gytundeb â nhw ynglŷn â faint y dylech ei gael. Mae'n syniad da dechrau drwy awgrymu ffigur ac esbonio pam yr ydych yn meddwl ei fod yn rhesymol.

Beth os nad yw'r adeiladwr wedi gwneud y gwaith mewn pryd?

Mae'n rhaid i chi roi ail gyfle i'r masnachwr i orffen y gwaith, oni bai eich bod wedi ei gwneud yn glir ei bod yn bwysig bod rhaid gorffen y gwaith erbyn dyddiad penodol. Eglurwch fod rhaid gorffen y gwaith erbyn dyddiad penodol y tro hwn. Mae’n syniad da rhoi hyn yn ysgrifenedig - bydd yn gwneud iddo deimlo fel mwy o fater brys. Os oeddech wedi dweud bod rhaid i'r gwaith gael ei orffen erbyn dyddiad penodol, gallwch ddweud wrth y masnachwr nad ydych am iddo barhau i weithio i chi. Rhaid i chi roi hyn yn ysgrifenedig. 

Dylech dalu am unrhyw waith y mae wedi'i wneud hyd yn hyn, ond gallwch ofyn am ddisgownt i wneud iawn am unrhyw anghyfleustra y mae wedi'i achosi. Os mai ychydig iawn o waith y mae wedi'i wneud, neu os nad yw wedi gwneud dim, efallai na fyddwch yn fodlon talu dim iddo. Os ydych eisoes wedi rhoi rhywfaint o arian (neu flaendal) a'ch bod yn meddwl ei fod yn ormod am y gwaith mae wedi'i wneud, gallwch awgrymu ffigur a gofyn iddo ad-dalu'r gwahaniaeth. 

Beth os ydw i'n meddwl fy mod i'n gorfod talu gormod?

Os yw'r adeiladwr wedi codi mwy nag yr oeddech yn ei ddisgwyl neu wedi cytuno arno, bydd eich hawliau'n dibynnu ai dyfynbris ynteu amcangyfrif a gawsoch. Edrychwch ar eich gwaith papur os nad ydych yn siŵr beth ydoedd. Mae dyfynbris yn addewid i wneud gwaith am bris y cytunwyd arno. Dyfaliad gorau'r masnachwr am gost y gwaith yw amcangyfrif.

Beth os yw rhywbeth wedi cael ei osod yn wael?

Os yw rhywbeth wedi cael ei osod yn eich cartref a'i fod wedi cael ei wneud yn wael, mae gennych hawl iddo gael ei drwsio - neu mae'n bosibl y gallech gael ad-daliad. Er enghraifft, os yw eich ffwrn yn rhoi sioc drydanol i chi, os yw gwasgedd eich cawod yn isel iawn neu os yw eich switsh golau ar y wal anghywir.

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw cwyno'n uniongyrchol wrth eich adeiladwr neu eich contractwr, neu wrth y cwmni sy'n cyflogi'r rhain.

Alla'i gymryd camau cyfreithiol?

Os ewch â'ch adeiladwr i'r llys yn y pen draw, bydd angen i chi allu darparu tystiolaeth o'r broblem. Dyma pam mae bob amser yn syniad da tynnu lluniau o waith adeiladu cyn y prosiect a drwy gydol cyfnod y gwaith, a chadw dyddiadur hefyd o ba bryd caiff pethau eu gwneud, pa faterion yr ydych wedi'u codi a beth y cytunwyd arno.

Os ydych yn mynd ag achos i'r llys ar y sail nad yw eich adeiladwr wedi gwneud y gwaith yn ddigon gofalus neu fedrus, bydd angen i chi ei gwneud yn glir hefyd eich bod yn gwrthod y gwaith. Os na wnewch hyn yn gyflym, gallai'r llys benderfynu eich bod yn rhannol fodlon a chynnig ad-daliad rhannol yn unig i chi.

Beth os yw'r adeiladwr wedi gwneud rhywbeth anniogel neu beryglus?

Rhowch y gorau i ddefnyddio unrhyw beth sy'n beryglus neu'n anniogel ar unwaith. Os yw'n declyn trydanol, diffoddwch ef a thynnu'r plwg allan os gallwch. Os yw'n declyn nwy a'ch bod yn gallu arogli nwy, ffoniwch y Gwasanaeth Argyfyngau Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999.

Dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol ar unwaith am adeilad neu adeiledd peryglus, hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor yn uniongyrchol neu â'r gwasanaethau argyfwng os oes risg uniongyrchol i iechyd a diogelwch pobl. Gadewch yr adeilad os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl uniongyrchol.

Riportio adeiladwr neu gontractwr i'r Safonau Masnach

Mae'n bwysig iawn eich bod yn riportio'r masnachwr i'r Safonau Masnach os yw wedi gwneud unrhyw beth sy'n beryglus neu'n anniogel. Ni allwch riportio'r masnachwr i'r Safonau Masnach yn uniongyrchol - cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth a byddant yn trosglwyddo'r neges i'r Safonau Masnach.

Gallwch ffonio'r llinell gymorth i ddefnyddwyr ar 0808 223 1133 neu siarad ag ymgynghorydd sy'n siarad Cymraeg ar 0808 223 1144.

Rhagor o wybodaeth

Beth i'w ddisgwyl yn ystod gwaith adeiladu

Pa gontract ddylai fod gennyf ar gyfer fy ngwaith adeiladu?