Skip to main content
Beth yw cyfamod cyfyngol a sut gallai effeithio ar fy mhrosiect gwella cartref?

Beth yw cyfamod cyfyngol a sut gallai effeithio ar fy mhrosiect gwella cartref?

Project type

Hyd yn oed os mai chi yw perchennog eich cartref, efallai na chewch wneud fel a fynnwch ag ef os oes cyfamodau cyfyngol yn berthnasol iddo.

Cytundeb mewn gweithred yw cyfamod cyfyngol sy'n cyfyngu ar sut y ceir defnyddio'r tir lle mae eich eiddo wedi'i leoli. Dylai eich cyfreithiwr fod wedi dweud wrthych amdano wrth i chi brynu eich cartref, ond mae'n arfer da darllen drwy'r gweithredoedd i wneud yn siŵr eich bod wedi sylwi ar unrhyw rai sydd yno cyn cwblhau'r broses o brynu eich cartref.

Fel rheol, byddant wedi'u rhoi yno gan y datblygwr a adeiladodd y cartref neu gan awdurdod lleol neu gorff arall fel parc cenedlaethol neu sefydliad treftadaeth.

Diben cyfamodau yw cynnal safonau penodol i'r holl breswylwyr. Yn aml, bydd datblygwyr tai a chwmnïau rheoli eiddo yn ychwanegu cyfamodau cyfyngol at weithred drosglwyddo er mwyn atal perchenogion rhag gwneud gwaith neu arferion eraill a allai gael effaith anffafriol ar gymdogaeth neu danseilio lefel ddymunol o 'unffurfiaeth' neu barhad.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin posibl:

  • Gwahardd perchenogion rhag gwneud addasiadau i eiddo, fel adeiladu estyniad, trawsnewid tŷ yn fflatiau, ychwanegu porth, newid teils y to neu balmantu dros yr ardd ffrynt.
  • Gwahardd adeiladau neu adeileddau sylweddol eraill rhag cael eu codi ar ddarn o dir.
  • Gwahardd masnachau neu fusnesau rhag gweithredu ar y tir.
  • Gwahardd gosod dysglau lloeren neu gamerâu diogelwch ar flaen y tŷ.
  • Parcio carafán, cartref modur, cerbyd masnachol neu gwch yn yr ardd ffrynt.
  • Cadw cywion neu dda byw eraill neu adael i ardd dyfu'n wyllt ac yn anniben.

Gyda chytundeb y rhydd-ddeiliad, mae'n bosibl dileu cyfamod cyfyngol neu ei amrywio â gweithred amrywio – fel rheol, bydd ffi am wneud hyn, ac efallai na fyddwch yn llwyddiannus.

Os gwelir eich bod yn torri cyfamod gallech wynebu dirwy fawr neu achos cyfreithiol, neu gellid gofyn i chi ddadwneud y gwaith.

Os yw hyn wedi digwydd, gallwch geisio caniatâd ôl-weithredol i wneud y gwaith ac os na allwch ddod o hyd i'r unigolyn â budd y cyfamod na darganfod pwy ydyw, gallwch ymgeisio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) i newid y cyfamod neu ei ddirymu. Gall hyn fod yn gostus a chymryd llawer o amser, ac efallai na fydd yn llwyddiannus. Bydd rhaid i chi dalu eich costau eich hun, ac os yw'r achos yn methu, costau'r unigolyn a greodd y cyfamod.

Gellir cael yswiriant indemniad ar gyfer gwaith gan berchennog blaenorol sy'n torri'r cyfamod, ond mae'r polisïau hyn yn tueddu i gynnwys cyfyngiadau penodol iawn.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi torri cyfamod cyfyngol, dylech gyflogi cyfreithiwr trawsgludo oherwydd gall fod yn fater cymhleth iawn.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddysgu mwy yma https://hoa.org.uk/advice/guides-for-homeowners/i-am-buying/restrictive-covenants/