Skip to main content
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer draeniau cegin?

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer draeniau cegin?

Project type

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer draeniau cegin?

Rhan H y rheoliadau adeiladu sy'n rheoli draeniau a pheipiau. Mae draeniau sydd ddim yn gweithio'n iawn yn gallu achosi i ddŵr gwastraff a charthffrydiau fynd i mewn i'r rhannau o'ch cartref lle rydych chi'n byw, gan achosi goblygiadau difrifol i iechyd yn ogystal â llifogydd.

Gall hefyd arwain at lifogydd a llygredd y tu allan i'ch cartref.

Hefyd, bydd angen i beipiau a thrapiau gwastraff fod yn gywir o ran maint a manyleb i sicrhau na chaiff unrhyw drapiau gwastraff (seliau dŵr) eu tynnu na'u seiffno allan drwy ddefnyddio dyfeisiau sy'n gadael arogleuon draeniau budr o'r garthffos i mewn i'r ystafell.

Waste pipe diagram showing water seal

Pryd mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y draeniau mewn cegin?

Os ydych chi'n newid lleoliad offer y gegin fel sinciau, peiriannau golchi dillad neu beiriannau golchi llestri fwy na rhai centimetrau, yn gwneud newidiadau i gysylltiadau neu'n gosod peipiau newydd, mae'n debygol y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Yn bendant, bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer cegin gwbl newydd mewn rhan newydd o'r tŷ neu ystafell amlbwrpas newydd.

Beth mae'r rheoliadau adeiladu'n ymwneud ag ef o ran draeniau cegin?

Mae'n rhaid gosod y draeniau o'ch cegin yn gywir i gludo gwastraff dŵr o'ch sinc, eich peiriant golchi llestri, eich uned gwaredu gwastraff neu eich peiriant golchi dillad i garthffos, gwaith trin, tanc septig neu garthbwll cyhoeddus neu breifat.

Mae'n rhaid i unrhyw beipen garthion ac awyru newydd (y beipen fertigol sy'n cysylltu'r ffitiadau cegin newydd â'r draeniau) fod wedi'i hawyru'n ddigonol o leiaf 900mm uwchben unrhyw agoriadau o fewn 3m oni bai eich bod chi'n gosod falf derbyn aer ar stac bwt fewnol.

Bydd gosod y rhain yn gywir yn golygu na fydd aer budr (drwg) o'r system ddraenio'n gallu dod i mewn i'ch cartref. Hefyd, mae angen gallu mynd at y peipiau i glirio rhwystrau, drwy ddarparu llygaid i rodenni ar bob newid cyfeiriad yn ogystal â thrapiau hygyrch y gellir eu tynnu allan.

Mae'n rhaid i'r peipiau fod yn aerglos ac ar y graddiant neu'r disgyniad cywir er mwyn i ddŵr gwastraff allu draenio'n iawn, a dylai'r defnyddiau a'r crefftwaith fod o safon foddhaol. Mae angen i ddiamedr y peipiau fod yn gywir i'ch llif dŵr hefyd, a dylai popeth ffitio at ei gilydd yn iawn.

Mae'r rhesymau hyn i gyd yn golygu y dylech chi ystyried cyflogi plymwr cymwysedig i wneud y gwaith hwn ar eich rhan.

Os ydych chi'n defnyddio Unigolyn Cymwys (defnyddiwch y blwch chwilio uchod i ddod o hyd i un yn eich ardal leol) bydd yn gallu hunanardystio'r gwaith sydd o fewn cwmpas y rheoliadau adeiladu. Fel arall, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nghegin?

Dogfen Gymeradwy H Lloegr: Draenio a gwaredu gwastraff

Dogfen Gymeradwy H Cymru: Draenio a gwaredu gwastraff