Skip to main content
Beth yw'r pethau allweddol i'w hystyried cyn addasu fy garej?

Beth yw'r pethau allweddol i'w hystyried cyn addasu fy garej?

Project type

Un opsiwn i greu mwy o le i fyw yn eich cartref yw addasu garej sy'n sownd yn y tŷ neu'n rhan ohono.

Mae hyn yn tueddu i fod yn rhatach nag adeiladu estyniad confensiynol, ac yn fwy o opsiwn drwy gydol y flwyddyn nag ystafell wydr.

Slab llawr

Mae'n bosibl y bydd y llawr concrit presennol yn ddigon cryf i ymdopi â defnydd domestig cyffredinol yn eich garej, ond mae'n debygol o fod ar lefel is na llawr eich tŷ.

Yn aml, does gan loriau garej ddim cwrs gwrthleithder felly bydd angen i chi osod pilen wrthleithder newydd. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio paent gwrth-ddŵr arbennig.

Bydd angen inswleiddio'r llawr hefyd.

Beth am wresogi a thrydan

Gallwch ddefnyddio trydanwr sy'n gallu hunanardystio ei waith o dan Ran P y rheoliadau adeiladu fel aelod o gynllun unigolion cymwys.

Fel arall, bydd eich gwaith trydanol yn ffurfio rhan o'ch cais rheoliadau adeiladu a bydd angen i'r syrfëwr rheoli adeiladu ei gymeradwyo.

Efallai y gallwch estyn eich system wresogi bresennol, neu gallech ddewis gwresogi o dan y llawr.

Os ydych yn gosod llosgydd logiau, dylai gael ei osod gan rywun sydd wedi'i gofrestru â chynllun unigolion cymwys fel HETAS.

Pa fath o lawr ddylwn i ei osod wrth addasu fy garej?

Ar ôl adeiladu ac inswleiddio eich llawr newydd, gallwch chi ddefnyddio teils, carped neu bren yn union fel unrhyw ystafell arall.

Mae angen wal allanol newydd arna'i - pa fath o wal ddylwn i ei chael?

Bydd angen llenwi agoriad drws yr hen garej â chyfuniad o wal a ffenestr. Cewch chi ddefnyddio adeiledd â ffrâm gerrig neu bren, ond bydd angen i beth bynnag rydych chi'n ei ddewis fod yn adeiledd digon da, wedi'i gysylltu â'r waliau sy'n bodoli, wedi'i inswleiddio ac wedi'i amddiffyn rhag lleithder a dŵr yn dod i mewn.

Fel rheol, bydd angen sylfaen newydd i gynnal llwyth wal gerrig newydd, ac fel rheol bydd hon yn mynd i lawr at ddyfnder waliau'r tŷ o'i chwmpas. Mae'n rhaid i'r gwaith brics neu flociau fod yn gwbl ddanheddog a bondio â'r gwaith brics sy'n bodoli.

Efallai y penderfynwch chi ychwanegu ffenestri mwy neu ddrws â ffenestr ynddo - gallai hynny leihau'r llwyth ar y sylfaen blaen - neu hyd yn oed ddefnyddio wal gwbl wydr, ond bydd angen i chi drafod hyn â'ch awdurdod cynllunio lleol yn ogystal â sicrhau na fyddai'r golled gwres na'r cynnydd solar (gwres o'r haul) drwy'r ffenestr yn fwy nag mae'r rheoliadau adeiladu'n ei ganiatáu.

Agoriadau drysau

Os ydych yn gosod agoriad drws newydd yn rhan o wal y garej, bydd angen i chi ddarparu linter addas (trawst ar draws yr agoriad) i gynnal pwysau'r waliau neu'r to uwch ei ben.

Caiff y linter a'i chynheiliaid (beth mae'n eistedd arno) eu pennu a'u harchwilio fel rhan o'ch cais rheoliadau adeiladu.

Os ydych yn gwneud agoriad mwy i greu man cynllun agored, bydd angen cyfrifiadau adeileddol gan beiriannydd ar gyfer y trawstiau dur a'r cerrig padio (blociau cyfnerth cadarn sydd wedi'u dylunio i ddal pwysau'r dur a'r llwyth mae'n ei ddal), a bydd angen amddiffyn y rhain rhag tân.

Inswleiddio waliau

Caiff rhai garejis integredig mwy newydd eu hadeiladu at yr un safon â'r prif dŷ, felly mae'n bosibl na fydd angen uwchraddio'r waliau.

Mae waliau hŷn yn llai tebygol o fod wedi'u hinswleiddio'n ddigonol felly bydd angen uwchraddio'r rhain, naill ai drwy chwistrellu neu chwythu defnydd i mewn i'r ceudod neu drwy osod leinin sych o stydwaith pren, defnydd inswleiddio a byrddau plastr.

Os mai dim ond rhan o'r garej rydych chi'n ei haddasu, bydd angen i chi adeiladu gwahanfur mewnol wedi'i inswleiddio'n llawn sy'n gallu amddiffyn rhag tân am 30 munud.

Gellir adeiladu hwn â gwaith blociau neu â stydwaith pren wedi'i leinio â bwrdd plastr gwrthdan ar ochr y garej.

A fydd y to presennol yn ddigon da?

Gan dybio bod eich garej yn sownd yn y tŷ yn hytrach nag yn integredig, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y to mewn cyflwr defnyddiol da, nad yw'r distiau'n dioddef pydredd na phla, nad ydynt yn gwyro gormod a bod gorchudd y to'n dal dŵr.

Inswleiddio'r to

Bydd hyn yn dibynnu ar gynllun eich garej. Ar gyfer garej gwbl integredig, ni fyddai angen inswleiddio thermol rhwng yr ystafell newydd a'r un uwch ei phen, ond dylai fod wedi'i hinswleiddio'n acwstig.

Os yw eich garej yn sownd yn y tŷ a bod ganddi do ar oleddf, gallwch chi inswleiddio ar lefel y nenfwd neu lefel y trawstiau.

Ar gyfer to fflat, bydd angen gosod inswleiddiwr anhyblyg rhwng y distiau ac o dan y distiau, gan adael bwlch wedi'i awyru uwch ei ben i atal anwedd. Cewch chi ddewis gosod inswleiddiwr to cynnes sy'n mynd uwchben y distiau os ydych chi hefyd yn adnewyddu gorchudd y to.

Awyru

Fel unrhyw ystafell drigiadwy newydd, mae angen awyru addasiad garej yn ddigonol.

Mae hyn yn cynnwys awyru cyflym fel ffenestr sy'n gallu agor yn ogystal ag awyru diferu neu gefndir fel awyrell yn nhop ffrâm y ffenestr.

Yn gyffredinol, mae angen i arwynebedd y ffenestr sy'n agor mewn ystafell drigiadwy fod yn 1/20fed rhan o arwynebedd y llawr.

Ffenestri, drysau a ffenestri to

Mae angen i unrhyw ffenestri, drysau neu ffenestri to newydd fodloni safonau presennol y rheoliadau adeiladu o ran inswleiddio, maint agoriadau, awyru diferu (drwy agoriad bach o fewn ffrâm y ffenestr), diogelwch a stribedi drafftiau (rhimynnau drafftiau).

Mae ffenestri to'n ffordd wych o ychwanegu mwy o olau naturiol drwy do fflat neu ar oleddf, a syniad arall yw pibellau haul neu dwnelau haul (sy'n sianelu'r golau'n uniongyrchol i mewn i'ch ystafell drwy diwb adlewyrchol sy'n mwyhau'r golau). Byddai'r naill neu'r llall o'r rhain yn rhan o'ch cais rheoliadau adeiladu.

A oes angen ffenestr ddihangfa dân

Os nad yw eich ystafell newydd yn agor i mewn i gyntedd sy'n rhoi llwybr uniongyrchol wedi'i amddiffyn at ddrws allanol, ac nad oes ganddi ei drws ei hun yn arwain i'r tu allan, bydd angen i chi ddarparu ffenestr ddianc.

Mae'n rhaid i hon allu agor i arwynebedd clir o 0.33m2 o leiaf, bod wedi'i lleoli fel bod gwaelod y rhan y gellir ei hagor o fewn 1100mm i lefel y llawr gorffenedig, ac mae'n rhaid i'w lled a'i huchder fod yn 450mm o leiaf. Fel rheol, bydd angen ei hongian o'r ochr.

Rhagor o wybodaeth

A oes angen caniatâd cynllunio i addasu fy garej?

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i addasu fy garej?