
Pa faterion sy'n berthnasol i adeiladu ystafell wydr cynllun agored?
Project type
Mae'r rheoliadau adeiladu ar gyfer ystafell wydr cynllun agored yn wahanol i'r rhai ar gyfer ystafell â drws neu wal yn ei gwahanu oddi wrth eich tŷ.
Dydy ystafelloedd gwydr cynllun agored ddim yn eithriedig ac mae hynny'n golygu y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i dynnu unrhyw ddrysau neu waliau allanol rhwng eich tŷ a'r ystafell wydr.
Mae hyn er mwyn osgoi colledion gwres gormodol a fyddai'n golygu defnyddio mwy o egni i wresogi eich cartref (a biliau egni uwch) a hefyd i wneud yn siŵr nad yw gweddill eich cartref yn gorboethi mewn tywydd cynnes.
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, bydd angen i chi brofi na fydd ychwanegu'r estyniad tebyg i ystafell wydr yn gwneud yr ystafell wydr na gweddill y tŷ yn llai effeithlon o ran egni nag oedd o'r blaen.