Ymsuddiant, symudiad a'ch ystafell wydr
Project type
Mae sylfeini annigonol yn broblem gyffredin, ac yn gallu achosi i'ch ystafell wydr ymsuddo neu symud.
Dydy'r ffaith bod adeiledd ystafell wydr yn 'ysgafn' ddim yn golygu y dylai'r sylfaen fod yn fas, neu nad oes angen un o gwbl.
Os yw'r sylfeini'n symud a'r setliad yn wahanol rhwng yr ystafell wydr a'r tŷ presennol, bydd hyn yn achosi craciau yn yr adeiledd sy'n gallu arwain at ddŵr yn dod i mewn.
Dyma rai arwyddion bod gennych chi broblem ag ymsuddiant:
- Craciau newydd (yn enwedig rhai lletraws) ar waliau a lloriau eich ystafell wydr (neu rai presennol yn mynd yn fwy).
- Y drysau a'r ffenestri'n mynd yn sownd neu'n anodd eu hagor.
- Yr ystafell wydr ei hun yn gogwyddo tuag at eich cartref neu oddi wrtho.
- Llethr yn llawr yr ystafell wydr.
Os ydych chi'n poeni, gofynnwch i syrfëwr adeiladu cymwysedig ddod i edrych arno.