Hoffwn i roi to newydd ar fy ystafell wydr - beth ddylwn i ei wybod?
Project type
Os ydych chi'n bwriadu rhoi to newydd gwydr neu uPVC ar eich ystafell wydr, bydd angen i chi gyflwyno cais rheoliadau adeiladu oherwydd bydd angen cymeradwyo'r newid.
Bydd y rhan fwyaf o ystafelloedd gwydr sy'n bodoli'n gallu cynnal llwythi ychwanegol, ond os nad yw'r sylfeini'n ddigon da gallent symud ac achosi gwahaniaethau setlo rhwng yr ystafell wydr a'r tŷ presennol, ac arwain at graciau, dŵr yn gollwng a chynhaliad annigonol i ffenestri/drysau i ddal y llwythi.
Beth bydd y tîm rheoli adeiladu'n edrych arno
Cyn i'r gwaith ddechrau, ac ar ôl i'r tîm rheoli adeiladu dderbyn eich cais, byddant yn archwilio'r ystafell wydr bresennol i wneud yn siŵr y gall hi gymryd llwyth ychwanegol y to newydd.
Os nad oes diffygion i'w gweld, mae'n annhebygol y gwnaiff y to newydd achosi methiant i adeiledd yr ystafell wydr. Dylai fod syrfëwr eich cwmni toi wedi asesu hyn yn barod.
Gallai unrhyw ddiffygion olygu nad yw'r sylfeini presennol yn ddigonol i gynnal y llwythi ychwanegol, felly mae'n debygol y bydd angen gwaith adfer sylweddol am gost ychwanegol.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod cynhaliad y drws presennol yn cynnwys mewnosodiadau dur i wasgaru llwyth y to i lawr i slab y llawr. Eto, dylai fod syrfëwr y cwmni toi wedi asesu hyn cyn gwneud unrhyw waith.
Bydd eich syrfëwr LABC hefyd am sicrhau bod y to newydd a'r adeiledd sy'n ei gynnal yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau adeiladu ac nad yw gweddill yr ystafell wydr yn waeth nag oedd o'r blaen.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Rheoliadau Adeiladu'r LABC ynglŷn â thoeon solet ar ystafelloedd gwydr neu byrth sydd wedi'u cysylltu ag aneddiadau, sydd ar gael i'w llwytho i lawr am ddim.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r LABC wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol sy'n egluro'r rheolau ynglŷn â gosod to solet yn lle to tryleu ar ystafell wydr. Mae'r canllaw'n amlinellu'r amodau y bydd disgwyl i chi eu bodloni i sicrhau bod yr adeiledd yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu a'i fod yn ddiogel.
Llwytho i lawr: Canllawiau'r LABC ynglŷn â thoeon solet ar ystafelloedd gwydr a phyrth sydd wedi'u cysylltu ag aneddiadau