Skip to main content
A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith rendro ar fy waliau allanol?

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith rendro ar fy waliau allanol?

Project type

Os ydych yn tynnu rendrad presennol, yn ailrendro neu'n rhoi gorffeniad rendrad ar arwyneb sydd heb gael ei rendro o'r blaen, efallai y bydd angen i chi wella perfformiad thermol y wal drwy ychwanegu defnydd inswleiddio, ond mae hynny'n dibynnu ar faint o'r wal y byddwch yn gweithio arni.

Os yw'r gwaith yn cael ei wneud ar 25% neu fwy o'r eiddo, bydd rhaid i chi gynnwys defnydd inswleiddio [dolen at erthygl inswleiddio waliau] er mwyn gallu cyrraedd y lefel U ofynnol (cyfradd trosglwyddo gwres o'r eiddo i'r tu allan), sy'n helpu i gynhesu eich cartref. Caiff hyn ei ddosbarthu fel "Adnewyddu Elfen Thermol" ac mae hynny'n golygu y bydd angen cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu.

Gallwch drafod manylion penodol y prosiect â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol (mae eu manylion cyswllt ar gael drwy chwilio yn ôl cod post yn y blwch uchod).

Gwnewch yn siŵr bod y contractwyr yr ydych yn eu defnyddio'n arbenigwyr, gan fod gosod rendrad yn wael yn gallu creu diffygion – sy'n golygu y bydd lleithder yn gallu treiddio a llwydni'n gallu tyfu – a gall hyn fod yn ddrud i'w drwsio.

Rhagor o wybodaeth

Dogfen Gymeradwy Rhan L Lloegr: Cadwraeth tanwydd a phŵer

Dogfen Gymeradwy Rhan L Cymru: Cadwraeth tanwydd a phŵer

Cwestiynau cyffredin am geisiadau rheoliadau adeiladu