Skip to main content
Beth yw archwilio cynllun?

Beth yw archwilio cynllun?

Project type

Fel rhan o'r broses ddylunio, bydd llawer o bobl yn dewis cyflogi gwasanaethau gweithiwr adeiladu proffesiynol cymwys ag yswiriant llawn, fel technegydd neu ymgynghorydd pensaernïol, i ddylunio eu cynllun.

Bydd yr unigolyn hwn yn cynhyrchu cynlluniau a manylebau y gall eich darparwr rheoli adeiladu eu hadolygu a'u deall, yn ogystal ag unrhyw gontractwr sy'n ymwneud â'ch prosiect.

  1. Beth yw archwiliad cynllun?
  2. A yw archwiliad cynllun o unrhyw fudd i mi, perchennog y tŷ?
  3. A gaf gyflwyno Hysbysiad Adeiladu yn lle hyn?
  4. Pam mae archwiliad cynllun mor bwysig?
  5. Beth mae syrfewyr yn chwilio amdano wrth archwilio cynlluniau?
  6. Dyma rai o'r camgymeriadau cyffredin sy'n cael eu canfod ar gam archwilio'r cynllun...

Beth yw archwiliad cynllun?

Os ydych wedi cyflwyno cais Cynlluniau Llawn i dîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol, caiff eich cynllun ei archwilio gan syrfëwr â chymwysterau a phrofiad addas i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.

Dyma'r archwiliad cynllun, proses sy'n cynnwys adolygiad llawn o'ch prosiect, gan gynnwys:

  • Lluniadau
  • Unrhyw gyfrifiadau adeileddol
  • Manylion am sut y bydd y prosiect yn bodloni safonau perthnasol y rheoliadau adeiladu
  • Manylion am sut y bydd yn bodloni unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â diogelwch a pherfformiad adeiladau domestig

Fel rheol, bydd yr archwiliad cynllun yn cymryd rhai dyddiau ond gall gymryd wythnosau i archwilio prosiectau mwy cymhleth.

Efallai y bydd hyn yn swnio fel amser hir, ond bydd yr archwiliad yn sylwi ar unrhyw broblemau posibl er mwyn i chi allu darparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad.

A yw archwiliad cynllun o unrhyw fudd i mi, perchennog y tŷ?

Bydd yn llawer haws (a mwy cost-effeithiol) datrys unrhyw broblemau sy'n cael eu canfod ar y cam cynnar hwn na rhai sy'n ymddangos yn ystod y gwaith adeiladu – dyna pam, yn ddelfrydol, y dylid cwblhau'r archwiliad cynllun cyn dechrau unrhyw waith. Os ydych yn dechrau gwaith cyn i'ch cynllun gael ei gymeradwyo, chi sy'n gyfrifol am y risg.

Cyn gynted ag y bydd gan y corff rheoli adeiladu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, a chyn belled ag nad yw'r cynlluniau'n dangos dim byd nad yw'n cydymffurfio, anfonir Hysbysiad Cymeradwyo atoch a chadarnhad o ba fersiwn o'ch cynllun sydd wedi'i gymeradwyo.

Yna, gallwch ddefnyddio'r cynllun hwn i gael dyfynbrisiau gan adeiladwyr a chyflenwyr defnyddiau.

Mae'n anochel y bydd amodau'r safle ac amgylchiadau annisgwyl yn gallu arwain at newidiadau i'r cynlluniau cymeradwy.

Dylai eich syrfëwr rheoli adeiladu gytuno â'r newidiadau hyn i wneud yn siŵr bod eich prosiect yn ddiogel ac yn cydymffurfio.

A gaf gyflwyno hysbysiad adeiladu yn lle hyn?

Mae'r dull hwn o gael cymeradwyaeth rheoli adeiladu wedi'i lunio ar gyfer mân waith fel newid hen ffenestri, ailwampio ystafell ymolchi, taro wal fewnol i lawr neu greu agoriadau newydd.

Ni fydd angen archwiliad cynllun ffurfiol fel rheol wrth wneud hyn, oherwydd y rhan fwyaf o'r amser nid oes cynlluniau na lluniadau manwl i'w harchwilio.

O dan hysbysiad adeiladu, bydd angen gwneud amrywiaeth o asesiadau llai o hyd wrth i'r gwaith ddigwydd – ac felly rhoddir gwybodaeth at ddibenion archwilio'r cynllun i'ch tîm rheoli adeiladu ar sail ad hoc – ac mae'n bosibl y byddant yn gofyn am fanylion a chyfrifiadau.

Angen gwneud cais rheoliadau adeiladu? Darllenwch ein cwestiynau cyffredin

Pam mae archwiliad cynllun mor bwysig?

Wrth gwrs, bydd angen i chi dalu rhywun i gynhyrchu'r lluniadau a'r dogfennau, ond yn y pen draw gallai cais rheoli adeiladu Cynlluniau Llawn (sy'n cynnwys archwiliad cynllun ac archwiliadau safle) arbed amser a hefyd arian i chi.

Gellir defnyddio llawer o fathau o luniadau wrth ddylunio ac adeiladu adeiladau, ac yn aml caiff y rhain eu paratoi gan wahanol ddisgyblaethau neu dimau sy'n gweithio ar wahân i'w gilydd.

Mae llawer o gamgymeriadau cyffredin yn gallu digwydd wrth gynhyrchu neu ddehongli lluniadau, ac mae'r rhain yn gallu arwain at oedi costus a gwaith adfer y gellid bod wedi'i osgoi.

Beth mae syrfewyr yn chwilio amdano wrth archwilio cynlluniau?

Un camgymeriad syml ond cyffredin yw peidio â chwblhau lluniadau. Gall lluniadau anghyflawn arwain at geisiadau am wybodaeth a dryswch pan fydd y gwaith yn dechrau ar y safle. Efallai hefyd y bydd dylunwyr yn hepgor rhai manylion yn ystod y broses ddylunio, fel manylion am ffenestri neu fanylion am adeiladu'r to, gan fwriadu eu cwblhau'n ddiweddarach, ac yn darparu nodiadau am yr elfen honno yn lle. Gall hyn greu problem os nad ydych yn gofyn iddynt ddiweddaru'r lluniadau cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Efallai na fydd lluniadau'n gydlynol, yn enwedig os cânt eu paratoi gan wahanol dimau, er enghraifft, efallai na fydd y wybodaeth ar luniadau adeileddol yr un fath ag ar y cynlluniau pensaernïol. Gall hyn arwain at 'wrthdaro', fel draeniau neu wasanaethau'n rhedeg drwy drawstiau adeileddol (gwrthdaro caled), neu ddiffyg lle i waith gosod neu fynediad i wneud gwaith cynnal a chadw (gwrthdaro meddal).

Mae'n bosibl hefyd y bydd anghysondebau rhwng gwybodaeth mewn lluniadau a gwybodaeth ysgrifenedig, fel atodlenni neu fanylebau. Mae'n bwysig naill ai osgoi dyblygu gwybodaeth rhwng gwahanol fathau o ddogfennau, neu ofalu bod un yn cyfeirio at y llall a bod y ddwy yr un fath.

Rhagor o wybodaeth

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a rheoli adeiladu?